Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

28 Mawrth 2022

SL(6)176 – Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi 38 o ffurflenni hysbysu rhagnodedig i'w defnyddio gan landlordiaid neu ddeiliaid contract mewn amgylchiadau penodol lle mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Deddf 2016) yn ei gwneud yn ofynnol neu'n awdurdodi'r naill barti i ddarparu gwybodaeth benodol yn ysgrifenedig. 

Er enghraifft, mae ffurflenni y gall landlordiaid eu defnyddio i hysbysu deiliaid contract am yr hyn a ganlyn:

§  cyfeiriad er mwyn anfon dogfennau a fwriedir ar gyfer y landlord (Ffurflen RHW2);

§  y bydd rhent newydd yn dod i rym ar ddyddiad penodol (Ffurflen RHW12);

§  bod yn rhaid i ddeiliad y contract ildio meddiant o annedd ar ddyddiad penodedig (Ffurflen RHW16);

§  bod y landlord yn bwriadu gwneud hawliad meddiant i’r llys (Ffurflen RHW23);

§  estyn y cyfnod prawf i gyfnod o 18 mis (Ffurflen RHW37);

Bydd landlordiaid a deiliaid contract yn gallu lawrlwytho'r rhain o wefan Llywodraeth Cymru ac, unwaith y byddant wedi'u cwblhau, gellir eu cyflwyno'n electronig yn unol â Deddf 2016.  Mae rhai ffurflenni hefyd yn cynnwys nodiadau cyfarwyddyd er mwyn gwneud eu diben yn haws ei ddeall.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Fe’u gwnaed ar: 08 Mawrth 2022

Fe’u gosodwyd ar: 10 Mawrth 2022

Yn dod i rym ar: